OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 2019 (Cy. 307) (C. 124)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym. Sef:
adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol)
adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol)
adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol)
adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol)
adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).
Daeth adrannau 1 (diben y Ddeddf hon), 24 (dehongli), 25 (cychwyn) a 26 (enw byr) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yn rhinwedd adran 25(1) o’r Ddeddf.
Daeth adrannau 10 (canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch), 14 (ystyr “awdurdod perthnasol”), 15 (pŵer i ddyroddi canllawiau statudol), 16 (ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru), 17 (dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol), 18 (datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol), 19 (cyfarwyddydau), 20 (Cynghorydd Cenedlaethol) ac 21 (swyddogaethau’r Cynghorydd) i rym ar 29 Mehefin 2015 yn rhinwedd adran 25(2) o’r Ddeddf.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 2019 (Cy. 307) (C. 124)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015
Gwnaed 10 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 25(3) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015([1]).
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
Diwrnod penodedig
2. 4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—
(a) adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol);
(b) adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol);
(c) adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol);
(d) adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol); ac
(e) adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2015